Ein cyf/Our ref SF/JH/3540/12

 

      

          3 Ionawr 2013

 

 

Ann Jones AC

Gwasanaeth y Pwyllgorau

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

 

Communities.Equality&LocalGov@wales.gov.uk

 

 

 

 

 

 

 

 

Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i’r Ystyriaethau Cydraddoldeb yng Nghyllideb Llywodraeth Cymru

 

Diolch yn fawr am eich llythyr dyddiedig 28 Tachwedd ynglŷn ag Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i’r Ystyriaethau Cydraddoldeb yng Nghyllideb Llywodraeth Cymru, ac argymhellion y Pwyllgor.

 

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei ystyried wrth i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau, gan gynnwys penderfyniadau a wneir gennym ynghylch y gyllideb ac ariannu. Fel y nodwch yn eich llythyr, mae hwn yn faes sy’n datblygu ac yn gwella gennym bob blwyddyn, a chredaf fod ein llwyddiant a’r cynnydd rydym wedi’i wneud hyd yn hyn yn dangos ymrwymiad sylweddol Llywodraeth Cymru i gydraddoldeb yng Nghymru.  

 

Ochr yn ochr â’r ymrwymiad hwn, ceir addewid i barhau i gryfhau a datblygu ein harbenigedd ym maes cydraddoldeb a gwella’r ffordd rydym yn asesu effeithiau’r penderfyniadau sy’n sail i’n cyllideb ar gydraddoldeb. Rwyf felly’n croesawu eich Ymchwiliad a’r argymhellion a gyflwynwyd gennych. Fel y gwyddoch, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru hefyd wedi cynnal Ymchwiliad Gwerthfawrogol i’n hasesiad o ystyriaethau cydraddoldeb wrth bennu’r gyllideb. Fe’i cyhoeddwyd ar 27 Tachwedd. Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio gyda mi ar yr argymhellion hyn, ynghyd ag argymhellion y Pwyllgor.

 

 

 

Efallai y bydd o gymorth os amlinellaf ble’r ydym arni a’r datblygiadau sydd wedi digwydd yn ddiweddar. Roedd un o’ch argymhellion yn awgrymu bod angen inni gyhoeddi Asesiad o Effaith y Gyllideb Ddrafft ar Gydraddoldeb, ochr yn ochr â’r Gyllideb Ddrafft. Cyhoeddwyd Asesiad o Effaith Cyllideb Ddrafft 2013-14 ar Gydraddoldeb â’r Gyllideb Ddrafft ar 8 Hydref. Cyhoeddwyd yr asesiad fel dogfen annibynnol, ar wahân, fodd bynnag, i ddangos ein hymrwymiad i fod yn dryloyw wrth ystyried cydraddoldeb. Dilynwyd hyn gan ddiweddariad o’r newidiadau a wnaed yn y Gyllideb derfynol i’r ystyriaethau a’r penderfyniadau gwario cychwynnol hynny. Mae hyn yn dangos mai proses barhaus yw cynnal ein hasesiadau, sy’n datblygu drwy gydol oes y penderfyniad gwario.

 

Fel y crybwyllwyd gennych, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Cynghori Cyllidebol ar Gydraddoldeb, a fydd yn cyfarfod yn y flwyddyn newydd. Bydd y fforwm cynghori hwn yn gwneud cyfraniad allweddol at barhau i wella Asesiad Llywodraeth Cymru o Effaith y Gyllideb ar Gydraddoldeb.

 

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Pwyllgor am ei adolygiad.

 

 

Yn gywir,

  

 

 

 

 

 

 

Jane Hutt AC / AM

Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Minister for Finance and Leader of the House